Lleoliad:
Ystafell Gynadledda A - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Iau, 4 Gorffennaf 2019
Amser: 09.15 - 15.20
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Bwrdd: |
Y Gwir Anrhydeddus y Fonesig Dawn Primarolo (Cadeirydd) Ronnie Alexander Trevor Reaney Michael Redhouse Y Fonesig Jane Roberts |
Swyddogion: |
Joanna Adams, Uwch-bartner Busnes Aelodau'r Cynulliad Anna Daniel, Pennaeth Trawsnewid Strategol Matthew Richards, Pennaeth y Gwasanaeth Cyfreithiol Rebecca Hardwicke, Pennaeth Cymorth Busnes i’r Aelodau Craig Stephenson, Cyfarwyddwr Ymgysylltu |
Ysgrifenyddiaeth: |
Lleu Williams (Clerc) Ruth Hatton (Dirprwy Glerc) |
Tystion: |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd Aelodau’r Bwrdd i’r cyfarfod.
1.2 Diolchodd y Cadeirydd i Rebecca Hardwicke a Craig Stephenson am eu gwaith yn cefnogi'r Bwrdd, a dymunodd bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.
1.3 Cytunodd y Bwrdd ar gofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ar 23 Mai.
1.4 Nododd y Bwrdd y diweddariad a roddwyd ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), sydd yng Nghyfnod 1 o'r broses graffu yn y Cynulliad ar hyn o bryd.
1.5 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gam nesaf Diwygio'r Cynulliad.
1.6 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar gaffael dyfeisiau diogelwch i Aelodau.
1.7 Nododd y Bwrdd y diweddariad ar wrandawiad tribiwnlys diweddar a dyfarniad dilynol o ran contractau ar gyfer staff grwpiau.
1.8 Nododd y Bwrdd ddiweddariad ar yr archwiliad mewnol diweddar o waith Cymorth Busnes Aelodau.
1.9 Nododd y Bwrdd ddiweddariad yn dilyn cyhoeddi canlyniadau'r arolwg Urddas a Pharch gan y Comisiwn.
1.10 Gwnaeth y Bwrdd drafod a chytuno ar ei flaenraglen waith ar gyfer tymor yr hydref.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi cofnodion y cyfarfod a gynhaliwyd ym mis Mai 2019.
Yr ysgrifenyddiaeth i ysgrifennu at staff grwpiau yn rhoi gwybod iddynt am effaith y dyfarniad o ran eu contractau.
2.1 Ystyriodd y Bwrdd yr ymatebion i'w ymgynghoriad.
2.2 O ran Cynnig 1, cytunodd y Bwrdd i ystyried y math o eiriau i gael gwared ar daliad llog ar forgeisiau yn 2026, ond i anrhydeddu trefniadau cytundebol presennol. Cytunodd y Bwrdd hefyd i ystyried y mater hwn ymhellach yn yr ymgynghoriad terfynol ar y Penderfyniad yn y flwyddyn newydd.
2.2 Cytunodd y Bwrdd i weithredu Cynnig 2 fel yr amlinellwyd.
2.3 O ran Cynnig 3, cytunodd y Bwrdd i ddisodli'r gair 'Esteem' gyda’r geiriau 'Enw Da' ac i ddileu'r gair 'gorfodol'. Cytunodd y Bwrdd hefyd i ddileu'r cyfeiriad at 'drafnidiaeth gyhoeddus' a’i newid i hygyrch a chyraeddadwy i'r cyhoedd.
2.4 Wrth ystyried yr ymatebion i Gynnig 4 a Chynnig 5, cytunodd y Bwrdd i beidio â darparu cyllid ar wahân ar gyfer prisio prydlesau ar hyn o bryd ond i gadw'r newidiadau hyn mewn cof wrth ystyried cyfanswm gwerth y lwfans ar ddiwedd yr adolygiad.
2.5 O ystyried yr ymatebion i Gynnig 6 a Chynnig 7 cytunodd y Bwrdd i newid y geiriad i roi eglurhad nad yw Aelodau wedi'u cyfyngu i brynu drwy'r Comisiwn, ond os bydd Aelodau'n dewis prynu gan gyflenwyr eraill yna ni fydd cefnogaeth ar gael gan y Comisiwn.
2.2 Cytunodd y Bwrdd i weithredu Cynnig 8 a Chynnig 9 fel yr amlinellwyd.
2.7 Cytunodd y Bwrdd i anfon llythyr yn amlinellu ei benderfyniadau cyn gynted â phosibl.
Cam gweithredu:
Yr ysgrifenyddiaeth i gyhoeddi ymateb y Bwrdd i'r ymgynghoriad cyn gynted â phosibl.
3.1 Ystyriodd y Bwrdd y darpariaethau yn y penodau ar lwfansau cymorth staffio o’r Penderfyniad sy'n dod o dan ran dau o'r adolygiad.
3.2 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio'r penodau hyn o'r Penderfyniad.
3.3 Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.
3.4 Ystyriodd y Bwrdd faterion yn ymwneud â’r Lwfans Cymorth Pleidiau Gwleidyddol a chytunodd i ddychwelyd at y mater hwn yn ei gyfarfod nesaf.
Cam gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol
4.1 Trafododd y Bwrdd y materion sy'n dod o dan ran tri o'r adolygiad ynghylch cyflogau Aelodau, deiliaid swyddi, gadael swyddi a chymorth ychwanegol.
4.2 Cytunodd y Bwrdd i ddychwelyd at y mater yn ei gyfarfod nesaf.
5.1. Trafododd y Bwrdd Adroddiad Blynyddol drafft y Bwrdd Taliadau 2018-19 ac, yn amodol ar fân newidiadau, cytunodd i gyhoeddi'r adroddiad a’i osod gerbron y Cynulliad maes o law.
Camau gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- gwneud y newidiadau y gofynnodd y Bwrdd amdanynt yn yr adroddiad;
- paratoi'r adroddiad ar gyfer ei gyhoeddi.
6.1 Cynigiodd y Bwrdd newidiadau i Reolau Cynllun Pensiwn yr Aelodau ar ôl cael cyngor cyfreithiol ynghylch goblygiadau posibl gwahaniaethu ar sail oedran.
6.2 Cytunodd y Bwrdd i ymgynghori ar ei gynigion i ddiwygio Rheolau'r Cynllun Pensiwn.
6.3 Y dyddiad cau ar gyfer yr ymgynghoriad fyddai 11 Hydref 2019.
Cam gweithredu:
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn:
- cyhoeddi a hyrwyddo'r ymgynghoriad;
- paratoi crynodeb o'r ymatebion i'w hystyried gan y Bwrdd mewn cyfarfod yn y dyfodol